Rosie Scribblah

AKA Rose Davies

Dwi wedi bod yn tynnu lluniau ers pan oeddwn yn blentyn bach; llyfr braslunio yw fy nghydymaith cyson. Mae tynnu lluniau yn yr awyr agored yn sail i fy nghelf a does gen i ddim problem o ran arlunio’n fyw yn gyhoeddus. Dwi’n meddwl ei bod yn dda i’r cyhoedd weld sut mae artistiaid yn gweithio. Nid darnau ymarfer mo’r arlunwaith; mae’r arlunwaith yn weithiau celf ynddyn nhw eu hunain. Mae fy llyfrau braslunio hefyd yn sail i’m gwaith fel gwneuthurwr printiau. Dyma stordy o syniadau ac ysbrydoliaeth i fwydo i mewn i dorluniau leino a thorluniau pren, printiau sgrin a monoteipiau. 

Mae fy ngwaith celf yn tueddu i fod yn ffigurol ac yn adlewyrchu fy ymrwymiad i sicrhau bod celf ar gael i bobl na fydden nhw fel arfer yn cymryd rhan. Dwi wedi bod yn ymwneud â llawer o gydweithfeydd sy’n dod â chelf i fannau cyhoeddus ac, fel Rosie Scribblah, dwi’n blogiwr gweithgar sy’n denu darllenwyr rhyngwladol. Ysgrifennaf flog darluniadol yn ddyddiol, gan ddefnyddio’r lluniau o’m llyfr braslunio fel deunydd. Dwi ers blynyddoedd lawer wedi bod yn trefnu arddangosfeydd a digwyddiadau celf mewn mannau cyhoeddus fel caffis, tafarndai, siopau gwag, a’r stryd, gan ddod â chelf i gynulleidfa newydd y tu allan i gyfyngiadau ‘ciwb gwyn’ yr oriel.

Sarah Hopkins

Tirwedd o waith dyn – mae amgylcheddau amaethyddol, diwydiannol a threfol yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro yn fy ngwaith. Dwi bob amser wedi cael fy swyno gan dreftadaeth ein cenedl a siapiau a phatrymau pensaernïol y dirwedd, sy’n dweud cymaint wrthym am hanes a diwylliant lle. 

Trwy dechnegau gwneud printiau, dwi’n herio fy hun i archwilio ffyrdd newydd o gyflwyno fy arsylwadau. Yn bennaf, dwi'n creu stensiliau papur cywrain, wedi'u torri â llaw, a haenau print sgrin o liw bywiog i adeiladu delweddau. Yn debyg iawn i baentiad, dwi'n gweithio o'r cefndir, gan ychwanegu dyfnder a manylder. Dwi’n hoffi torri rheolau gwneud printiau traddodiadol ac arbrofi trwy haenu pigmentau golau dros rai tywyll, gan fwynhau tryleuedd a didreiddedd y cyfrwng.

Mae fy ngwaith diweddar yn canolbwyntio'n bennaf ar fy nhreftadaeth ac arwyddocâd gwrthrychau a thrysorau gwerthfawr.

 

Rhiannon Rees

Dwi’n artist sy’n ymateb i’r amgylchedd sydd â diddordeb yng ngwaddol materol Cymru. Dwi’n treulio amser mewn lleoliadau ledled Cymru yn casglu deunyddiau gwastraff neu ddeunyddiau o bwys i lefydd Cymru i'w hailddefnyddio a’u troi’n baent cynaliadwy a naturiol neu’n baentiadau cerfluniol. Mae'r broses hon yn fy ngalluogi i ailgysylltu â thir fy hynafiaid; bu un ochr o’m teulu yn cloddio tir Cymru, a'r llall yn ffermio ei thir. 

Mae fy arlunwaith yn treiddio trwy arferion crefft fel lliwio, gwnïo, cynhyrchu tecstilau a hefyd technegau peintio a cherfluniol traddodiadol. Wrth galon fy ngwaith mae creu ymdeimlad o le o fewn y gwaith y gall cymunedau gysylltu ag ef.