Atelierhof-Werenzhain

Wedi ei sefydlu ym mis Tachwedd 1996, agorodd y ganolfan gelf gydag arddangosfa yn seiliedig ar draddodiad ac arloesedd yng nghelf menywod. Mae'r ganolfan, o dan gyfarwyddyd Iris Stoeber, yn parhau i hyrwyddo a chefnogi celf menywod trwy arddangosfeydd, gweithdai, stiwdios a phreswyliadau haf. Mae'n lle ysbrydoledig, wedi'i leoli ar fferm draddodiadol gyda buarth ac ysguboriau wedi’u trosi.

 

Y Prosiect

Dechreuodd Agor yn 2021 fel cynllun peilot a oedd y cynnwys preswyliad ar-lein i fenywod i gryfhau’r cysylltiadau rhwng artistiaid yng Nghymru ac yn yr Almaen.

Yn arbrofol ei natur, gan adeiladu ar rannu agored a deialog, nod Agor oedd datblygu model perthynas waith, wedi’i recordio’n gronolegol er gwybodaeth y cyhoedd. Cyfarfu’r artistiaid yn wythnosol ar-lein i drafod eu harferion a’u pryderon, gan alluogi canlyniadau i esblygu a dod i’r amlwg, a thrwy’r cydweithrediad hwn, datblygwyd gwaith yn annibynnol. Gweler yr archif am sgyrsiau ar-lein.

Daeth y cyfnod preswyl peilot hwn o 4 artist i ben gydag arddangosfa ar-lein, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2021, fel rhan o raglen o ddigwyddiadau blwyddyn Cymru yn yr Almaen.

Cefnogwyd y prosiect cyntaf gan fenter ‘Cymru yn yr Almaen’ Llywodraeth Cymru, gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a chan Gomisiynydd y Llywodraeth Ffederal ar gyfer taleithiau ffederal newydd yr Almaen (cystadleuaeth ymgysylltu “jyst do it! 2021”).

Gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn 2022, gwahoddwyd y curadur Ann Fiona Jones i ymuno â’r ddau artist AGOR o Gymru ar gyfer preswyliad byr yn yr Almaen i gael profiad personol o’r Atelierhof Werenzhein a rhanbarth penodol Brandenburg. Roedd gan y pedwar artist a sefydlodd AGOR arddangosfa yn yr Atelierhof - 'Circles 2'

Ym mis Gorffennaf 2023, cynhaliwyd dau ddigwyddiad yng Nghymru – un yn y de, yn Oriel Mission Abertawe, ac un yn y gogledd, yn Pontio, Bangor. Daeth nifer dda i’r ddau a thyfodd rhwydwaith AGOR o artistiaid.