Sgyrsiau
Trwy gydol cyfnod y preswyliad, bydd yr artistiaid yn cyfarfod yn wythnosol i drafod eu hymarfer a'u pryderon. Trwy rannu syniadau a chydweithio, mae'r artistiaid yn galluogi cyrff gwaith cyfredol a newydd i ddod i'r amlwg ac esblygu.
Mae'r holl sesiynau rhannu yn cael eu recordio a gallwch eu gwylio isod.
Sgwrs 1 _ Mae'r cyfan yn dechrau gyda syniad.
Mae'r prosiect yn cychwyn. Mae'r artistiaid yn dod at ei gilydd i drafod llinell amser y prosiect a rhannu eu syniadau a'u gweledigaeth ar gyfer y daith.
Sgwrs 2 _ Mae Beate yn cyflwyno ei gwaith.
Er mwyn dod i adnabod ei gilydd, deall gwaith ei gilydd yn well, a bod yn sail i ddeialog y grŵp, yn y fideo hwn mae Beate yn cyflwyno ei gwaith a'i hymarfer.
Sgwrs 3_ Mae Catrin yn cyflwyno ei gwaith.
Yn y fideo hwn, mae Catrin yn cyflwyno ei gwaith gan ddechrau o'i phrintiau pren ar bapur, yr holl ffordd drwodd i'w gwaith cerflunio.
Sgwrs 4 _ Mae Iris yn cyflwyno ei gwaith.
Mae Iris yn rhannu elfennau’r gwaith gyda'r artistiaid preswyl eraill. Wrth fyfyrio am gerddi, mae gwaith yr artist yn digwydd yn gyntaf yn ei dychymyg fel syniad cyn iddo droi’n ffaith..